Cyngor Cymuned
Trawsgoed
Community Council
Cynhelir ein cyfarfodydd bob chwech wythnos, yn Neuadd Lisburne, Llanafan, ac Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn bob yn ail. Mae'r cyfarfodydd yn agored i'r cyhoedd ond gofynnir yn garedig ichi gysylltu gyda'r Clerc neu'r Cadeirydd ymlaen llaw os hoffech annerch y cyfarfod. Bydd croeso arbennig i bawb yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhelir fel arfer ym mis Mai a lle bydd digon o gyfle i ofyn cwestiynau o'r llawr.
Cymuned wledig, wasgaredig yng ngogledd Ceredigion yw Trawsgoed, rai milltiroedd i’r dwyrain-dde-ddwyrain o Aberystwyth, ar lan ogleddol Afon Ystwyth. Mae’n ffinio â chymunedau Llanfarian, Llanilar, Ystrad Meurig, Ysbyty Ystwyth, Pontarfynach a Melindwr. Creuwyd Cyngor Cymuned Trawsgoed, sydd â 10 Cynghorydd, yn y 1980au drwy uno hen gynghorau bro Llanafan a Llanfihangel-y-Creuddyn, sydd bellach yn wardiau o fewn Cyngor Trawsgoed. Mae’n cynnwys pentrefi Llanafan a Llanfihangel-y-Creuddyn, Abermagwr, Cnwch Coch, a’r Gors/New Cross, a chymunedau bach gwasgaredig megis Trawsgoed a Brynafan. Amcangyfrifir bod bron i fil o bobl (gan gynnwys plant) yn byw yng nghymuned Trawsgoed erbyn hyn, gyda ward Llanfihangel â’r boblogaeth fwyaf. Chwe chynghorydd sydd yn cynrychioli Llanfihangel felly, gyda phedwar o ward Llanafan.
Mae hanes hir i’r ardal, sydd ag olion archeolegol pwysig. Lle saif plas y Trawsgoed heddiw bu caer Rufeinig ac yn 2009 daethpwyd o hyd i fila Rufeinig yn Abermagwr, yn agos i fferm o’r Oes Haearn. Yn y 19eg ganrif daeth y gwaith mwyn yn ddiwydiant pwysig ac mae ei olion i’w gweld mewn sawl man, gan gynnwys hen bwerdy Pont Ceunant.
Wedi i ystâd Trawsgoed a’r hen ddiwydiant plwm ddirwyn i ben yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif, y Comisiwn Coedwigaeth a sefydliad ymchwil amaethyddol blaengar Trawsgoed fu’r prif gyflogwyr am rai degawdau ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Pan gaeodd Trawsgoed a’r swyddfeydd coedwigaeth rai blynyddoedd yn ôl collwyd llawer o swyddi. Ond mae cyfran o’r trigolion yn dal i weithio ym meysydd amaeth, coedwigaeth a diwydiannau cysylltiol, tra bod eraill yn teithio bob dydd i weithio yn Aberystwyth, a rhai yn gweithio o’u cartrefi er gwaethaf diffygion y gwasanaethau band-eang a ffôn. Ar hyn y bryd mae Cyngor Trawsgoed yn gwneud popeth yn ei allu i sicrhau gwelliant yn y gwasanaethau hyn, ac yn hyderus o gael y maen i'r wal yn y pen draw.
Bu llawer o newid yn ardal Trawsgoed ers y 1980au. Erbyn Cyfrifiad 2011, allan o 962 o drigolion dros 3 oed, roedd 57.2% yn medru’r Gymraeg, o gymharu â 59.2% yn 2001. Gwelwyd gostyngiad bach, o 52.6% i 51.5%, ymhlith y rhai rhwng 16 a 64 oed, a gostyngiad o 58.6% i 48.6% ymhlith y rhai dros 65 oed – gan adlewyrchu, mae’n debyg, nifer y di-Gymraeg sy’n dod yma i ymddeol. Ond cafwyd cynnydd o 85.2% i 87.9% ymhlith y plant rhwng 3 a 15 oed, ac i’r ddwy ysgol fach, Llanafan a Llanfihangel-y-Creuddyn ac i ymdrechion diflino athrawon a chefnogaeth rhieni y bu’r diolch am hynny. Ergyd fawr fu penderfyniad Cyngor Sir Ceredigion i gau Ysgol Llanafan yn ystod haf 2014, a hynny er gwaethaf gwrthwynebiad y gymuned gyfan. Heddiw Llanfihangel yw’r unig ysgol o fewn cymuned Trawsgoed.
Mae pob un o’r Cynghorwyr Cymuned a’r Clerc yn medru’r Gymraeg. Mae croeso i aelodau’r cyhoedd gysylltu ag unrhyw un ohonynt yn Gymraeg neu Saesneg, ar lafar neu drwy lythyr. Cyhoeddir cofnodion cyfarfodydd yn ddwyieithog ar y we ac adroddiad cryno yn Gymraeg yn Y Ddolen, y papur bro lleol, ac yn y Cambrian News yn ogystal.