Adroddiad Blynyddol 2021 / 2022
Mae gan y cynghorau tref a chymuned y gallu i ddarparu nifer o wasanaethau, ac mae hynny’n dibynnu ar faint y gymuned y maen nhw’n ei chynrychioli, a’u cyllidebau. Dyma enghreifftiau o wasanaethau sy’n cael eu darparu gan gynghorau tref a chymuned:
● arwyddion gwybodaeth i’r cyhoedd, a hysbysfyrddau
● meinciau cyhoeddus a llochesi bysiau
● cofgolofnau rhyfel
● canolfannau cymunedol a chyfleusterau hamdden dan do.
Mae’r cynghorau tref a chymuned yn gweithio’n agos gyda’r cynghorau sir a’r cynghorau bwrdeistref sirol yn yr ardal ac yn cynrychioli buddiannau eu cymunedau. Hefyd, maen nhw’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill (gan gynnwys cynghorau tref a chymuned eraill yn yr ardal) i ddarparu gwasanaethau. Drwy gynnig cefnogaeth, gan gynnwys cyllid, cyfarpar neu adeiladau, gall y cynghorau tref a chymuned helpu cyrff eraill hefyd i ddarparu gwasanaethau fel gofal plant, gwasanaethau i’r henoed, mentrau amgylcheddol a gweithgareddau’n ymwneud â’r celfyddydau a chwaraeon.
Mae
Canllaw y Cynghorydd Da 2012 yn rhoi rhagor o fanylion am y pwerau sydd ar gael i’r cynghorau tref a chymuned.